Rheoli Digwyddiadau

"Eich partner digwyddiadau"

Ein Gwasanaethau
More

 

Gwasanaethau.

 

Troi breuddwydion y byd digwyddiadau yn realiti

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i gwrdd ag anghenion busnesau a chleientiaid preifat yma yn 2Can Productions.


Gan weithio o Gaerdydd, ac ar hyd a lled Cymru a’r DU, gall 2Can Productions eich helpu i ddod o hyd i’r ateb perffaith ar gyfer eich digwyddiad.

Gan ddarparu gwybodaeth dechnegol arbenigol a synnwyr busnes da, gallwn gynnig gwasanaeth amserol ac arloesol sydd yn addas i unrhyw gyllideb. Yn bwysicaf oll, rydym yn gweithio i’ch anghenion chi. Mae gan ein gweithwyr proffesiynol brofiad helaeth o ddarparu gwasanaethau i ystod eang o gleientiaid mewn ystod eang o sefyllfaoedd.

Mae 2Can Productions yn dîm gyda safonau uchel sydd yn anelu am berffeithrwydd o hyd, dyma’r cwmni delfrydol i ddarparu anghenion o bob agwedd ar gyfer eich digwyddiad chi.

O brosiectau megis goleuo fyny adeilad hanesyddol, i gyngerdd mewn castell; o gynadleddau i ŵyl/theatr stryd, mae 2Can Productions yn meddu ar y wybodaeth, y profiad a’r dychymyg i drefnu a chydweithio gyda chi.

DSC_8098

HAPPY-SUNNY-DAY

Beth y gallwn ei ddarparu

  • Digwyddiadau Awyr Agored

    • Rheoli Cynhyrchiad
    • Rheoli Safle
    • Paratoi Gogfennau SAG
    • Asesiad Risg
    • Dyluniad y Safle
    • Cynlluniau Safle AutoCAD
    • Goleuo
    • Trydan Dros Dro
    • Rheoli Torf
  • Digwyddiadau Corfforaethol

    • Cynhadleddau
    • Arddangosfeydd
    • Seremonïau Wobrwyo
    • Sioeau Ffasiwn
  • Cynhyrchu Theatr

    • Rheoli Cynhyrchiad
    • Rheoli Llwyfan
    • Dylunio Goleuo
    • Dylunio Sain
  • Gwasanaethau Technegol

    • Goleuadau Cam
    • Sain a PA
    • Llwyfannu
    • Rigio

Ein Prosiectau Blaenorol

Isod mae detholiad o ddelweddau o'r prosiectau yr ydym wedi gweithio arnynt yn y gorffennol


Partneriaid

Dim ond rhai o'r brandiau rydym wedi gweithio gyda, a beth oedd ganddynt i'w ddweud


IMG_3423

Velothon Wales 2016

DawnsYsbrydionkirstenmcternan369

Mae pob cleient yn bwysig i ni

 

 

Gallwn gynnig gwasanaeth hollgynhwysol, o’r cysyniad creadigol hyd at y cynnyrch gorffenedig. Neu efallai y byddwch ond angen technegydd i ddarparu goleuadau ar gyfer digwyddiad. Beth bynnag yw maint y prosiect, bydd rheolwr prosiect penodedig yn sicrhau gweithrediad esmwyth.

Mae ein tîm profiadol yn sicrhau bod eich cynnyrch gorffenedig y gorau y gall fod. Gan weithio mewn dull ffres a chreadigol, mae 2Can Productions yn sicrhau profiad gwreiddiol a chofiadwy; boed yn ddigwyddiad cerddorol, yn lansio cynnyrch corfforaethol neu’n gynhyrchiad theatr.

Mae gennym yr hyblygrwydd a’r gallu i gynnig gwasanaeth wedi’i deilwra 100%, sydd yn cwrdd â’ch gofynion chi. Bydd rheolwr prosiect yn eich tywys trwy’r broses gyfan, gan roi tawelwch meddwl i chi drwy gydol y broses. Rydym yn dîm hynog o hyblyg – os bydd eich anghenion unigol yn newid, byddwn yn hapus i’ch helpu chi wrth werthuso a chynnig y gwasanaethau bydd yn eich helpu i gyflawni eich nodau newydd i chi.

Rydym yn deall pa mor bwysig yw bod yn unigryw.